S4C

Menu

sharing image.jpg

Cwestiynau Cyffredin

Ble allai wylio Eisteddfod yr Urdd?

Ar y teledu ewch i S4C.

Ar ddydd Sadwrn a Sul, rhwng 12.30 – 21.00 mae rhaglen fyw yn adlewyrchu cystadlu’r dydd a mwy.

O ddydd Llun i Gwener, rhwng 10.30 - 18.30 mae rhaglen fyw yn adlewyrchu cystadlu’r dydd a mwy. Ar y diwrnodau yma hefyd mae uchafbwyntiau’r dydd i chi eu mwynhau  am 20.00. 

Bydd yr holl raglenni hyn ar gael ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Ble allai wylio cystadlu y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd?

Ewch i s4c.cymru/clic

Mae ffrwd fyw o holl gystadlu y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd ar S4C Clic a BBC iplayer. Bydd pob ffrwd ar gael ar Clic yn unig  am 3 diwrnod.

Bydd y cystadlu yn dechrau am 11.00 ar dydd Sadwrn a Sul ac am 9.00 o ddydd Llun i Gwener.

Mae posib dal lan ar y tair ffrwd i ail edrych ar eich hoff gystadleuaeth ond dim ond fe fydd hyn yn ddibynnol ar y teclun sy’n cael ei ddefnyddio i wylio. 

Ffrwd fyw yn unig fydd ar gael ar declynnau ffôn iOS ac Android.

Oes posib gwylio enillwyr y cystadlaethau?

Mae posib gwylio y tri ddaeth i’r brig ymhob cystadleuaeth ar y wefan s4c.cymru/urdd.

Ewch i’r gystadleuaeth o’ch dewis a bydd y clipiau yno i’w gweld o fewn ychydig ar ôl y canlyniad.

A fydd unrhyw gystadlaethau llawn ar y wefan?

Does dim posib gwylio pob cystadleuaeth ar alw ar y wefan.

Oes angen cofrestru i Clic cyn gallu gwylio cynnwys ?

Mae angen cofrestru i Clic cyn medru gwylio ac awgrymir gwneud hyn ymlaen llaw.

Sut ydw I’n cofrestru i Clic?

Gwasgwch y botwm Cofrestru ar y wefan https://s4c.urdd.cymru a dilynwch y cyfarwyddiadau. Neu…

Ewch i https://S4C.cymru/clic/MyS4C/SignUp lle mae’n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 gam syml.

  1. Rhowch eich enw i mewn gyda’ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.
  2. Bydd angen dewis eich iaith a chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch Cofrestru a dyna chi’n barod i wylio S4C Clic!
Ydw i’n gallu gwylio Clic ar fy ffôn neu dabled?

Mae posib lawrlwytho ap Clic er mwyn gwylio ar eich ffôn neu dabled ond ni fydd posib spwlio nol ar y ffrydiau Coch, gwyn a gwyrdd ar y teclynnau hyn.

Oes ap yr Urdd ar gael?

Fe fydd ap Eisteddfod yr Urdd ar gael i’w lawrlwytho eleni a trwyddo bydd posib cael manylion am yr holl gystadlu, digwyddiadau’r maes a llawer mwy yn ymwneud a’r wythnos.

A fydd sioau Cyw a Stwnsh ar y maes eleni?

Fe fydd sioeau Cyw a Stwnsh yn cael eu perfformio yn Yr Adlen ar y maes.

banner Urdd

Ap Eisteddfod yr Urdd

Mae canlyniadau a pherfformiadau’r Eisteddfod ar gael ar yr ap, ac wrth gwrs ein Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg Rhithiol. Lawrlwythwch yma
banner Urdd
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×