S4C

Menu

sharing image.jpg

Cwestiynau Cyffredin

Ble allai wylio Eisteddfod yr Urdd?

Ar y teledu ewch i S4C.

Rhwng 10.30 – 18.30 bydd rhaglen fyw yn adlewyrchu cystadlu’r dydd a mwy.

Am 20.00 bydd posib mwynhau holl uchafbwyntiau’r dydd.

A bydd yr holl raglenni hyn ar gael ar S4C Clic neu i-player.

Ble allai wylio cystadlu y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd?

Ewch i https://s4c.cymru/clic

Bydd ffrwd fyw o holl gystadlu y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd ar S4C Clic.

Bydd y ffrwd  lan am 08.00 bob dydd a’r cystadlu yn dechrau am 08.30.

Ffrwd fyw yn unig yw hon ac felly dyw hi ddim ar alw. 

Oes posib gwylio enillwyr y cystadlaethau?

Mae posib gwylio y tri ddaeth i’r brig ymhob cystadleuaeth ar y wefan s4c.cymru/urdd.

Ewch I’r gystadleuaeth o’ch dewis a bydd y clipiau yno I’w gweld o fewn ychydig ar ôl y canlyniad.

A fydd unrhyw gystadlaethau llawn ar y wefan?

Does dim posib gwylio pob cystadleuaeth ar alw ar y wefan. 

Fel arbrawf eleni fe fydd 5 cystadleuaeth gorawl  yno I gyd a posib gweld yr holl gorau. Bydd botwm I wylio’r cyfan ar y cystadlaethau penodol. 

Y gobaith fydd ehangu ar hyn flwyddyn ar flwyddyn. 

Oes angen cofrestru i Clic cyn gallu gwylio cynnwys ?

Mae angen cofrestru i Clic cyn medru gwylio ac awgrymir gwneud hyn ymlaen llaw.

Sut ydw I’n cofrestru i Clic?

Either press the ‘registration’ button on the website s4c.cymru/urdd or go to https://S4C.cymru/clic/MyS4C/SignUp lle mae’n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 gam syml. 

  1. Rhowch eich enw i mewn gyda’ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair. 
  2. Bydd angen dewis eich iaith a chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch Cofrestru a dyna chi’n barod i wylio S4C Clic!
Ydw i’n gallu gwylio Clic ar fy ffôn neu dabled?

Mae posib lawrlwytho ap Clic er mwyn gwylio ar eich ffôn neu dabled. 

Oes ap yr Urdd ar gael?

Fe fydd ap Eisteddfod yr Urdd ar gael I’w lawrlwytho eleni a trwyddo bydd posib cael manylion am yr holl gystadlu, digwyddiadau’r maes a llawer mwy yn ymwneud a’r wythnos.

A fydd sioau Cyw a Stwnsh ar y maes eleni?

Fe fydd sioeau Cyw a Stwnsh yn cael eu perfformio yn Yr Adlen ar y maes.

banner Urdd

Ap Eisteddfod yr Urdd

Mae canlyniadau a pherfformiadau’r Eisteddfod ar gael ar yr ap, ac wrth gwrs ein Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg Rhithiol. Lawrlwythwch yma
banner Urdd
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×