Ar y teledu ewch i S4C.
Rhwng 10.30 – 18.30 mae rhaglen fyw yn adlewyrchu cystadlu’r dydd a mwy.
Am 20.00 bydd posib mwynhau holl uchafbwyntiau’r dydd.
A bydd yr holl raglenni hyn ar gael ar S4C Clic neu i-player.
Ewch i https://s4c.cymru/clic
Mae ffrwd fyw o holl gystadlu y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd ar S4C Clic a bydd pob ffrwd ar gael ar Clic am 3 diwrnod.
Bydd y cystadlu yn dechrau am 8.00 bob dydd.
Mae posib dal lan ar y tair ffrwd i ail edrych ar eich hoff gystadleuaeth ond dim ond trwy fynd i s4c.cymru/clic/ ar desktop neu gyfrifiadur mae hyn yn bosib.
Ffrwd fyw yn unig fydd ar gael ar declynnau fel ffôn a theledu clyfar.
Mae posib gwylio y tri ddaeth i’r brig ymhob cystadleuaeth ar y wefan s4c.cymru/urdd.
Ewch I’r gystadleuaeth o’ch dewis a bydd y clipiau yno I’w gweld o fewn ychydig ar ôl y canlyniad.
Does dim posib gwylio pob cystadleuaeth ar alw ar y wefan.
Fel arbrawf eleni fe fydd 5 cystadleuaeth gorawl yno I gyd a posib gweld yr holl gorau. Bydd botwm I wylio’r cyfan ar y cystadlaethau penodol.
Y gobaith fydd ehangu ar hyn flwyddyn ar flwyddyn.
Mae angen cofrestru i Clic cyn medru gwylio ac awgrymir gwneud hyn ymlaen llaw.
Gwasgwch y botwm Cofrestru ar y wefan s4c.cymru/urdd a dilynwch y cyfarwyddiadau. Neu…
Ewch I S4C.cymru/clic/MyS4C/SignUp lle mae’n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 gam syml.
1. Rhowch eich enw i mewn gyda’ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.
2. Bydd angen dewis eich iaith a chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch Cofrestru a dyna chi’n barod i wylio S4C Clic!
Mae posib lawrlwytho ap Clic er mwyn gwylio ar eich ffôn neu dabbled ond ni fydd posib spwlio nol ar y ffrydiau Coch, gwyn a gwyrdd ar y teclynnau hyn.
Fe fydd ap Eisteddfod yr Urdd ar gael I’w lawrlwytho eleni a trwyddo bydd posib cael manylion am yr holl gystadlu, digwyddiadau’r maes a llawer mwy yn ymwneud a’r wythnos.
Fe fydd sioeau Cyw a Stwnsh yn cael eu perfformio yn Yr Adlen ar y maes.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now